Neidio i'r prif gynnwy

Coronafeirws Newydd (COVID-19) - Cyngor hunan-ynysu

Arhoswch adref: canllaw i aelwydydd sydd o bosibl wedi’u heintio â’r coronafeirws (COVID-19)


Diweddariad 24 Mawrth

Cyflwyniad

Y peth pwysicaf allwn ni oll wneud, wrth frwydro'r coronafeirws yw aros adref er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau.

Wrth leihau ein cyswllt o ddydd i ddydd gyda phobl eraill, gallwn leihau lledaeniad yr haint. Dyna pam fod y llywodraeth nawr (23 Mawrth 2020) yn cyflwyno tri mesur newydd:

  1. gofyn bod pobl yn aros adref, heblaw at ddibenion cyfyngedig iawn
  2. cau siopau a mannau cymunedol nad ydynt yn hanfodol
  3. rhwystro mwy na dau berson rhag cyfarfod yn gyhoeddus

Rhaid i bob dinesydd gydymffurfio gyda'r mesurau newydd hyn. Bydd yr awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu, yn cael y pŵer i'w gorfodi - gan gynnwys rhoi dirwyon a gwasgaru pobl sy'n casglu at ei gilydd.

Mae'r mesurau hyn yn dod i rym yn syth. Bydd y llywodraeth yn edrych eto ar y mesurau hyn mewn tair wythnos, ac yn eu llacio os yw'r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn bosibl.
 

Aros adref

Dylech ond adael y tŷ am un o bedwar rheswm:

  • siopa am hanfodion, er enghraifft bwyd a meddyginiaethau, mor anaml â phosibl
  • un math o ymarfer corff bob dydd, er enghraifft rhedeg, cerdded neu feicio - ar eich pen eich hunain, neu gydag aelodau o'ch cartref
  • unrhyw angen meddygol, neu i ddarparu gofal i berson bregus
  • teithio i ac o'r gwaith, ond dim ond pan na ellid gwneud hyn o adref o gwbl

Mae'r pedwar rheswm hwn yn eithriadau - hyd yn oed  wrth wneud y gweithgareddau hyn, bydd angen i chi gyfyngu ar yr amser y byddwch yn ei dreulio tu allan i'ch cartref, a sicrhau eich bod 2 metr i ffwrdd wrth unrhyw un tu allan i'ch cartref.

Mae'n rhaid i'r mesurau hyn gael eu dilyn gan bawb. Mae cyngor ar wahân ar gael i unigolion neu gartrefi sy'n ynysu, ac ar gyfer y bobl fwyaf bregus sydd angen eu hamddiffyn.

Os ydych yn gweithio mewn sector gritigol sydd yn y canllawiau yma, neu fod eich plentyn wedi ei nodi'n fregus, gallwch barhau i fynd â'ch plant i'r ysgol. Lle nad yw rhieni'n byw yn yr un cartref, gall plant o dan 18 gael eu symud rhwng cartrefi eu rhieni.
 

Cau siopau a mannau cyhoeddus nad ydynt yn hanfodol

Wythnos diwethaf, gorchmynnodd y llywodraeth bod busnesau penodol - gan gynnwys tafarndai, sinemâu a theatrau - yn cau. Mae'r llywodraeth bellach yn estyn y gofyniad yma i fwy o fusnesau a lleoliadau eraill, gan gynnwys:

  • unrhyw siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol - mae hyn yn cynnwys siopau dillad ac electroneg; salonau gwallt, harddwch ac ewinedd; a marchnadoedd tu allan a dan do, ac eithrio marchnadoedd bwyd
  • llyfrgelloedd, canolfannau cymuned ac ieuenctid
  • cyfleusterau hamdden tu allan a dan do, fel ali fowlio, arcêd a chyfleusterau chwarae meddal
  • mannau cymunedol gyda pharciau, fel meysydd chwarae, cyrtiau chwaraeon a champfeydd tu allan
  • mannau addoli, heblaw ar gyfer angladdau gyda teulu3agos yn unig
  • gwestai, hostelau, gwely a brecwast, safleoedd gwersylla, parciau carafanau a thai preswyl at ddibenion masnachol/hamdden (heblaw ar gyfer trigolion parhaol a gweithwyr allweddol)

Canllawiau manylach ar beth sy'n cau, gan gynnwys rhestr lawn o'r busnesau hynny a lleoliadau eraill sy'n rhaid cau. Gall busnesau a lleoliadau eraill sydd ddim ar y rhestr yma aros ar agor.
 

Rhwystro ymgasglu’n gyhoeddus

I wneud yn siŵr bod pobl yn aros adref ac i ffwrdd wrth ei gilydd, mae'r llywodraeth hefyd yn rhwystro pobl yn ymgasglu'n gyhoeddus, os oes mwy na dau o bobl.

Dim ond dau eithriad sydd i'r rheol yma:

  • lle bo'r ymgasgliad yn grŵp o bobl sy'n byw gyda'i gilydd - mae hyn yn golygu y gall rhiant, er enghraifft, fynd â'u plant i'r siop os nad oes opsiwn i'w gadael adref.
  • lle bo'r ymgasgliad yn hanfodol at ddibenion gwaith - ond dylai gweithwyr fod yn ceisio lleihau pob cyfarfod ac ymgasgliadau eraill yn y gweithlu.

Yn ogystal, bydd y llywodraeth yn rhwystro digwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys priodasau, bedyddiadau a seremonïau crefyddol eraill. Bydd hyn yn eithrio angladdau, y gall teulu agos eu mynychu.

Cyflawni'r mesurau newydd

Bydd y mesurau hyn yn lleihau ein cyswllt o ddydd i ddydd gyda phobl eraill. Maent yn rhan hanfodol o'n hymdrechion i leihau cyfradd trosglwyddo'r coronafeirws.

Mae'n rhaid i bob dinesydd gydymffurfio gyda'r mesurau newydd hyn.

Bydd y llywodraeth felly yn sicrhau bod yr heddlu ac awdurdodau perthnasol eraill yn cael y pwerau i'w gorfodi, gan gynnwys trwy ddirwyon, a chael gwared ar gasgliadau o bobl lle nad yw pobl yn cydymffurfio.

Byddant yn para tair wythnos o 23 Mawrth, ac yna bydd y Llywodraeth yn edrych arnynt eto ac yn eu llacio os yw'r dystiolaeth yn dangos fod hyn yn bosibl.